Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Tachwedd 2015
Amser:
09.00 - 11.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3284
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Alun Ffred Jones AC (yn lle Jocelyn Davies AC) |
Tystion: |
Simon Dean, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Peter Higson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
|
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Dave Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro a Dr Peter Higson, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel rhan o'r ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.
3.2 Cytunodd Simon Dean i anfon rhagor o wybodaeth am:
· Cydleoli ar draws ardal y Bwrdd mewn perthynas â gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau.
· Meysydd penodol a nodwyd ynglŷn â gallu'r tîm anweithredol a sut y mae'r Bwrdd yn bwriadu gwella hyn
· Ffigurau cyfredol sy'n dangos presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd
· Yn dilyn y cyfarfod o'r Bwrdd sydd ar ddod, nodyn ar y penderfyniad a wnaed i gydlynu'r strwythur pwyllgorau presennol
· Cyfanswm costau'r cynghorwyr annibynnol a benodwyd i gynorthwyo'r Bwrdd hyd yma a gwerthusiad o'u defnydd
· Y cynnydd mewn gwasanaethau mamolaeth a ddarperir yn Ysbyty'r Countess of Chester
· Y diweddaraf am gynigion y Bwrdd ar gyfer Gofal Sylfaenol
· Cadarnhad ynghylch a gafodd Adroddiad Holden ei rannu â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
· Sut y mae'r Bwrdd wedi gwella ei weithdrefn trin cwynion a sut mae'n tracio cwynion ar ôl iddynt gyrraedd y system gan gynnwys cwynion hir sefydlog ac a fydd y rhain wedi'u cwblhau cyn diwedd mis Mawrth 2016
· Beth yw'r broses o fewn y Bwrdd Iechyd ynghylch trin adroddiadau CIC
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.